Mae Janet yn athrawes wedi ymddeol, sy'n arbenigo mewn cerddoriaeth, gyda’i hymwneud blaenorol â bywyd prifysgol yn arwain at radd Faglor cerddoriaeth yng Nghaerdydd ac yna diploma addysgu ar ddiwedd y 1970au, ac yna Gradd Meistr mewn Astudiaethau Addysgol yn Rhydychen yn 1999-2000.
"Rwyf bob amser wedi cael fy nghyfareddu gan y berthynas rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth ac ers peth amser roeddwn wedi bod eisiau archwilio agweddau ar y berthynas honno drwy rywfaint o ymchwil â ffocws. Roedd ymddeol o'r 'swydd bob dydd' yn golygu bod gennyf fwy o amser i fynd ar drywydd hyn o'r diwedd.
"Roedd gen i ddiddordeb penodol mewn archwilio arwyddocâd sain wrth ffurfio a dehongli barddoniaeth, yn enwedig darnau a gynhyrchwyd gan awduron benywaidd cyfoes.
“Y dewis perffaith ar gyfer fy ymchwil oedd y bardd Eingl-Americanaidd, Anne Stevenson, a oedd wedi bwriadu dilyn cerddoriaeth yn wreiddiol fel gyrfa nes bod byddardod cynyddol yn ei hieuenctid yn gwneud hynny'n amhosibl. Yn hytrach, defnyddiodd ei chariad at gerddoriaeth i siapio a nodweddu ei cherddi, o rai ei chasgliadau cynharaf hyd at ei chyhoeddiad diweddaraf ddechrau'r flwyddyn hon, ychydig fisoedd cyn ei marwolaeth yn wyth deg saith oed.
"Gall ymgymryd â gradd ymchwil fod yn dasg eithaf unigol, sy'n gwarantu trochi yn y pwnc ac ymdeimlad mwy o gyfrifoldeb am ei archwilio a'i ddehongli. Mwynheais bob agwedd ar y 'daith', o'r llwybrau niferus o feddwl beirniadol y des ar eu traws ar y ffordd, i'r gwaith mwy fforensig a phenodol yr oedd ei angen wrth i'r prosiect fynd rhagddo.
"Roeddwn wedi gorffen ysgrifennu'r traethawd ymchwil ymhell cyn i realiti Covid19 darfu arnom. Digwyddodd y viva ar-lein drwy Microsoft Teams ac roeddwn yn ddiolchgar i'm goruchwyliwr, yr Athro Alice Entwistle, am drefnu sesiwn viva 'ffug' cyn y digwyddiad, a hefyd y gefnogaeth dechnegol wych gan yr Ysgol Raddedigion. Roedd y tîm arholi viva yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo’n gartrefol, yn ogystal â gwneud argraff arnaf gyda lefel y craffu yr oeddent wedi'i roi i'm gwaith cyn y digwyddiad.
"Roedd y newyddion fy mod i, ar ôl ychydig o newidiadau i'r testun, wedi llwyddo ennill y Radd Meistr drwy Ymchwil yn felysach fyth ar ôl yr holl aros!
"Mae pob profiad mewn bywyd, rwy'n credu, mewn rhyw ffordd yn siapio'r ffordd rydyn ni'n meddwl yn y dyfodol ac nid oedd ymgymryd â'r radd ymchwil yn eithriad i hyn. Yn sicr, helpodd i ddatblygu fy sgiliau dadansoddol a'm cyflwyno i feysydd diddordeb newydd sy'n haeddu cael eu harchwilio ymhellach. Mae hefyd yn ysbrydoli fy ymdrechion fy hun fel bardd a hefyd fel cyfansoddwr.
"Un agwedd a ddaeth i'r amlwg yn gryf yn ystod fy astudiaethau oedd y berthynas rhwng creadigrwydd ac anabledd. Mae gen i ddiddordeb mewn edrych ar hyn yn fanylach, yn enwedig unwaith eto mewn cysylltiad â barddoniaeth a cherddoriaeth, ac rwy'n teimlo y byddai symud tuag at ddilyn doethuriaeth yn darparu modd priodol i'w harchwilio ymhellach."