Yn ddiweddar cwblhaodd Rachel ei gradd Meistr drwy Ymchwil mewn Llenyddiaeth Saesneg, gan basio ei viva heb unrhyw gywiriadau. Mae Rachel yn gweithio'n llawn amser fel swyddog marchnata e-bost.
Soniwch ychydig am eich Gradd Meistr...
Roeddwn i eisiau astudio’n rhan amser, sef y llwybr mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddewis ar gyfer Meistr drwy Ymchwil. Does dim darlithoedd, ond roedd cyfarfodydd rheolaidd gyda goruchwylwyr fy nhraethawd ymchwil.
I waith yr awdur Margaret Atwood y gwnes i fy ymchwil. Roeddwn i wedi darllen peth o'i gwaith yn y brifysgol ond ar ôl gorffen fy ngradd israddedig, es ati i ddarllen ei gwaith cynharach o'r 1960au a'r 70au.
Gellir ystyried gwaith Atwood fel actifyddiaeth, gyda'i gwaith mwy diweddar yn sôn am faterion gwleidyddol a hinsawdd. Roedd themâu ffeministaidd i beth o’i gwaith cynharach. Nodais sut mae hi'n ffocysu ar y corff benywaidd, yn enwedig cyrff tew, a sut mae'r rhain yn cael eu portreadu mewn cymdeithas. Sylwais ar gysylltiadau sy'n dal i fod yn berthnasol heddiw gyda'r mudiad cyrff cadarnhaol.
Roeddwn am wybod a oes unrhyw awduron modern wedi cael eu hysbrydoli gan Atwood a des i o hyd i ddau awdur oedd yn amlwg wedi eu dylanwadu gan Atwood i ysgrifennu am gyrff benywaidd tew.
Y nofelydd cyntaf yw Sarai Walker, a ysgrifennodd Dietland yn 2015. Mae yna baralelau amlwg gyda nofelau Atwood ac mae nifer o feirniaid wedi cymharu'r ddwy. Sylwais eu bod yn creu cymeriadau tebyg.
Yn ail, Mona Awad, awdur o Ganada a ysgrifennodd Thirteen ways of looking at a fat girl. Mae’n defnyddio themâu tebyg iawn i rai Atwood ond yn llawer mwy diweddar, yn 2016.
Roedd gen i ddiddordeb yn y ffordd roedd yr awduron yn delio â dewisiadau eu protagonyddion.
Roedd gan gymeriadau tew Atwood lai o ryddid i fyw'r bywydau roedden nhw eisiau eu byw oherwydd yr oes roedden nhw ynddi.
Roedd cymeriadau Walker ac Awad yn byw mewn oes wahanol felly defnyddiais gyd-destunau ffeministaidd y gwahanol gyfnodau i ddadansoddi ai hyn oedd yn gyfrifol am y gwahanol ddewisiadau ganddynt
Sut ydych chi wedi llwyddo i gydbwyso gwaith ac astudio?
Mae wedi bod yn drwm, yn enwedig gyda'r pandemig hefyd. Dechreuais weithio'n llawn amser a daeth yn anoddach i ymdopi â’r cyfan, ond rwy'n angerddol am fy swydd a fy ngwaith academaidd felly rwyf wedi gwneud iddo weithio.
Hefyd, mae goruchwylwyr fy nhraethawd ymchwil, Diana Wallace, Nicholas Dunlop, ac Emily Underwood-Lee wedi bod yn wych.