14-11-2022
Mae pwysigrwydd ymchwil yr Athro Kevin Millsar Dr Richard Price, yr athronydd goleuedigrwydd o Langeinwyr sydd wedi ei alw'n feddyliwr mwyaf dylanwadol Cymru, wedi ei amlygu yn y Senedd.
Yn y cyfnod cyn trichanmlwyddiant geni Price, dywedodd Huw Iranca-Davies AS wrth y Senedd am waith Contemporancient Theatre, y cwmni a gydsefydlodd yr Athro Mills gyda'r dramodydd, yr actor a’r cyfarwyddwr, Vic Mills. Cydnabu Mr Iranca-Davies ei ddyled i’r Athro Mills ‘am ddarn ardderchog mae wedi'i ysgrifennu ar Richard Price’, a oedd yn sail i'w gyflwyniad i'r Senedd. Bydd y cwmni'n mynd â’r ddrama gymunedol ar daith y flwyddyn nesaf, gan dynnu sylw at feddwl gwleidyddol Price, yn ogystal â chydlynu nifer o ddigwyddiadau i nodi'r pen-blwydd.
Dywedodd yr Athro Mills: ‘Nawr yn fwy nag erioed mae angen i ni ailddarganfod gwaith Price. Mae ei ddadleuon dros ryddid gwleidyddol yn sylfaenol i'r frwydr dros hawliau dynol yn y byd modern.'
Darllenwch fwy am y prosiect yma.
Gwrandewch ar gyflwyniad Huw Iranca-Davies yma.
08-03-2023
16-01-2023
25-11-2022
14-11-2022
27-10-2022
08-06-2022
04-03-2022
28-01-2022
17-09-2021