27-10-2022
Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle ar gyfer sgyrsiau anffurfiol a rhwydweithio gyda chyd-ymchwilwyr.
Bob mis rydym hefyd yn gwahodd cydweithiwr academaidd i siarad yn onest am eu taith ymchwil, a rhannu eu dirnadaeth a'u profiad o bwnc penodol.
Ein gwestai ar gyfer mis Tachwedd yw Diana Wallace, Athro Saesneg, a fydd yn rhannu ei huchafbwyntiau a'i hiselodau o gael ei chyhoeddi.
Mae Diana wedi cyhoeddi pedwar monograff a dros 30 o benodau llyfrau ac erthyglau cyfnodolion. Ar ôl gweithio fel golygydd ar gylchgronau i bobl ifanc yn eu harddegau, daeth Diana i'r byd academaidd yn hwyr ac mae wedi bod yn ceisio dal i fyny ers hynny. Ar hyn o bryd mae hi'n ysgrifennu (neu o bosib yn gywirach ddim yn ysgrifennu) monograff ar foderniaeth a ffuglen hanesyddol.
Bydd cydweithwyr o Ysgol y Graddedigion, a Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (Cyllid Ymchwil; Effaith; Marchnata Digidol; Datblygu Ymchwilwyr) wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
08-03-2023
16-01-2023
25-11-2022
14-11-2022
27-10-2022
08-06-2022
04-03-2022
28-01-2022
17-09-2021