Digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Dr Mike Chick - Holocaust Memorial Day, Cynon Valley Museum



Gwahoddwyd Dr Mike Chick i fod yn siaradwr gwadd yn Amgueddfa Cwm Cynon ar 26, Ionawr 2022 ar gyfer trafodaeth banel i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost 2022.


Mae Dr Chick wedi gweithio ym maes addysgu iaith ers dros bum mlynedd ar hugain ac ef yw Hyrwyddwr Ffoaduriaid y Brifysgol. Ymunodd Abi Cater, cyfarwyddwr sefydlu Forensic Resources Ltd a Chyd-gadeirydd bwrdd Cymru o Gofio Srebrenica; a Dr Daryl Lee Worthy, awdur a hanesydd, a Chymrawd Ymchwil Rhys Davies yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.


Roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar thema eleni, “Un Diwrnod”, i gofio a dysgu am yr Holocost, Erledigaeth y Natsïaid a’r hil-laddiad a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.


“Roedd yn wych gweithio unwaith eto gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar faterion mor bwysig â chofio’r holocostau a’r angen i greu cymdeithasau cynhwysol, amrywiol y mae gan bawb lais ynddynt,” meddai Dr Mike Chick. “Mae digwyddiadau fel y rhain wir yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o fod yn Genedl Noddfa.”