Ymchwil a gyhoeddwyd gan PDC a Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn rhoi cyfle i leisiau ffoaduriaid gael eu clywed

English Research  Mike Chick_536.jpg

Dr Mike Chick



Mae ymchwilwyr sy'n ymchwilio i rwystrau at addysg a chyflogaeth i fudwyr gorfodol yng Nghymru bellach wedi cyhoeddi eu canfyddiadau. 


Casglodd y prosiect cydweithredol rhwng Prifysgol De Cymru (PDC) a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, a ariannwyd gan KESS, ddata ar ffoaduriaid o Syria, sy'n cael eu hailymgartrefu mewn ardaloedd cydgyfeirio yng Nghymru.  


Dan arweiniad Dr Mike Chick, Hyrwyddwr Ffoaduriaid PDC, nod y prosiect oedd tynnu sylw at y realiti sy'n wynebu pobl sydd ar raglenni ailsefydlu yng Nghymru. Un o'r prif amcanion oedd creu cyfle i leisiau ffoaduriaid gael eu clywed.


"Gyda niferoedd cynyddol o bobl yn ceisio diogelwch daw angen cynyddol i Lywodraethau'r DU sicrhau bod poblogaethau'n byw'n gydlynol gyda'i gilydd, a bod newydd-ddyfodiaid yn integreiddio'n llwyddiannus i gymunedau sefydledig."


Roedd y prosiect yn ymchwilio i dri chwestiwn allweddol:

  • Oes rhwystrau i ffoaduriaid o ran cael mynediad at addysg a chyflogaeth yn y rhanbarthau hyn? Os oes, beth ydyn nhw? 
  • Pa waith sy'n cael ei wneud, ar lawr gwlad, ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, i oresgyn y rhwystrau hyn? 
  • Sut mae’r mudwyr gorfodol eu hunain yn teimlo am eu haddysg a'u cyflogaeth (yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol), a'u mynediad at adnoddau sydd eisoes yn bodoli?


Nododd y canfyddiadau allweddol rai o'r rhwystrau y mae teuluoedd sydd wedi'u hailymgartrefu yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddarpariaeth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) effeithiol. Er enghraifft, er bod awydd cryf i astudio, roedd y ffoaduriaid yn wynebu anghysondeb o ardal i ardal o ran y nifer o oriau dosbarth a gynigiwyd iddyn nhw, roedd galluoedd cymysg o fewn yr un dosbarth yn atal dysgu effeithiol, ac nid oeddent yn gallu cael gofal plant na chyllid i deithio i ddosbarthiadau. 


O ran rhwystrau i hyfforddiant a sgiliau cyflogaeth, canfu'r ymchwiliad fod y rhwystr iaith a diffyg dealltwriaeth am sgiliau’r ffoaduriaid yn creu anawsterau, ac roedd diffyg cyngor ynghylch cyflogaeth. Un rhwystr nodedig oedd iechyd corfforol a meddyliol. Nid yw'n syndod, efallai, bod ffoaduriaid yn aml yn cael eu hystyried yn bobl ag iechyd cymharol wael cyn ac ar ôl ymgartrefu, o'u cymharu â phobl sy'n mudo'n bennaf am resymau economaidd.


Ers 2014, mae Dr Chick wedi arwain y cydweithio arloesol rhwng PDC a Chyngor Ffoaduriaid Cymru. 


Dr Chick hefyd sy’n arwain Cynllun Noddfa Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches PDC, sy’n galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gael mynediad at hyfforddiant a pharatoadau iaith cyn dechrau ar eu gradd – rhywbeth nad yw'n cael ei gynnig gan unrhyw brifysgol arall yng Nghymru. 


Yn 2020, PDC oedd yr ail sefydliad AU yng Nghymru i ennill statws Prifysgol Noddfa. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad PDC i greu diwylliant o groeso i bobl sy'n ceisio noddfa o fewn a’r tu hwnt i’w champysau.


Dywedodd Dr Chick: "Rydyn ni o'r farn y bydd y canfyddiadau o fudd i awdurdodau lleol sy'n ceisio ymateb i ddatblygiad poblogaethau mudol newydd, ac i lunwyr polisi sy'n ceisio tystiolaeth i ddatblygu strategaethau ar gyfer cydlyniant cymunedol.


"Mae ffoaduriaid yn dod â sgiliau, hyfforddiant ac arbenigedd mewn ystod enfawr o alwedigaethau, ac maen nhw’n aml yn awyddus i roi eu profiad gwaith a'u hegni ar waith. Serch hynny, o ran cael gwaith, mae cryn dystiolaeth i awgrymu bod ffoaduriaid o dan anfantais arbennig wrth gael mynediad i'r farchnad lafur yn y DU."



Mae'r adroddiad llawn ar gael yma.