I ddathlu’r syniad o iachau, thema
Wythnos Ffoaduriaid eleni, mae’n bleser gennym groesawu Eric Ngalle Charles i sôn am ei gasgliad o gerddi, Homelands. Mae
Eric Ngalle Charles yn awdur, bardd, dramodydd ac actifydd hawliau dynol o Camerŵn sydd wedi'i leoli yng Nghymru. Derbyniodd Wobr Cymru Greadigol 2017/2018 am ei waith ar bynciau ymfudo, trawma, a’r cof. Yn ei hunangofiant I, Eric Ngalle: One Man’s Journey Crossing Continents from Africa to Europe (2019), mae’n adrodd ei daith i Ewrop.
Dilynir hyn gan animeiddiad a grëwyd gan Ida Mizaree , myfyriwr MA Animeiddio, a dderbyniodd un o
Ysgoloriaethau Noddfa PDC.Yn olaf, bydd dangosiad o’r ffilm Speak to Me, gan Suzanne Phillips, gyda phanel trafod ar y diwedd.
Dan arweiniad Barrie Llewelyn, mae
Speak to Me yn brosiect lle daeth siaradwyr Saesneg a ffoaduriaid at ei gilydd i ddefnyddio iaith mewn ffordd greadigol a llawn mynegiant.
- Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mehefin 2022, 15:30 – 19:00
- Lleoliad: Campws Trefforest. Ystafell i'w chadarnhau
- Cynulleidfa: Mae croeso i bawb. Darperir lluniaeth.
- Cofrestru: Eventbrite