English Research Banner

Allen Raine - llais benywaidd nodedig yng Nghymru


Allen Raine - book cover; English PhD Research by Juliet LarsonMae’r ymchwilydd PhD Saesneg, Juliet Larsen, wedi’i hysbrydoli gan waith yr awdur 

Ysgrifennodd Allen Raine (ffugenw Anne Adalisa Evans) un ar ddeg o nofelau a chasgliad o straeon byrion yn ystod ei hoes. Mae ei ffuglen yn cynnwys menywod doeth, ysbrydegwyr, gwallgofrwydd, lladrata ac ymgais i ewthanasia, ynghyd â chyfeillgarwch ymroddgar, cyfrinachau a gedwir ac addewidion a anrhydeddwyd. Roedd hi’n awdur a werthodd orau ym Mhrydain ac America, gyda’i gwaith yn gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau, ac ailgyhoeddiwyd dwy o’i nofelau – A Welsh Witch (1902) a Queen of the Rushes (1906) gan Honno yn 2013 a 1998. Er hynny, plac bach llwyd sydd ganddi o hyd ar gartref y teulu yng Nghastellnewydd Emlyn, gorllewin Cymru sy'n nodi'n syml ei henw a'i dyddiadau: 1836-1908, ac sy'n parhau i fod yn enw cymharol anadnabyddus yng Nghymru.

Des i ar draws Raine am y tro cyntaf wrth wneud ymchwil ar gyfer fy PhD ar ysgrifennu Saesneg merched yng Nghymru. Mae fy mhrosiect yn dangos bod merched yn defnyddio llenyddiaeth i fynegi’r llais a wrthodwyd iddynt yn llwybrau traddodiadol y coleg diwinyddol a’r eglwys ac (i raddau llai) y capel. Mae Raine yn arbennig o berthnasol gan fod ei chefndir crefyddol, cymysgedd o Anghydffurfiaeth ac Anglicaniaeth, yn golygu, ar adeg pan oedd crefydd yn dal i fod, er gwaethaf seciwlariaeth gynyddol, yn rhan ddiffiniol o fywydau pobl, ysgrifennodd yn deg am y ddau draddodiad. Wrth imi ddarllen ei gwaith a’i dyddiaduron ac ymweld â’i thref enedigol, ei heglwys a’i bedd, deuthum i sylweddoli pa mor bwysig yw ei llais o hyd i ferched cyfoes. Mae gwaith Raine yn bwysig i ddod â thraddodiad ysgrifennu Saesneg merched yng Nghymru i fwy o amlygrwydd, ond mae hi hefyd yn ein hatgoffa, mewn oes lle mae merched yn dal i wynebu gwrthwynebiad yn yr eglwys, fod brwydr hir o’n blaenau o hyd dros gydraddoldeb.

.Allen Raine (the pseudonym of Anne Adalisa Evans) - English Research by Juliet Larson, PhD

Nid am grefydd yn unig yr ysgrifenodd Raine; yn hytrach, un rhan o gefndir ei nofelau sy’n dod â nhw’n fyw. Er gwaethaf y blynyddoedd lawer yn byw yn Llundain, mae holl nofelau Raine wedi’u gosod yng Nghymru ac mae iddynt naws Gymreig arbennig, ac mae ei gwaith yn cynnwys nodweddion y dirwedd y gellir eu hadnabod hyd heddiw. Mae tafarn y Ship yn dal i sefyll ar draeth Tresaith ac mae'r rhaeadr yn dal i ddisgyn, yn ddramatig, i'r môr o'r clogwyni uwchben. Creodd fyd lle mae pobl yn bobl – yn ddiffygiol, yn gyfeiliornus ac yn gariadus – wedi’u hysbrydoli gan y Gymru yr oedd hi ei hun yn ei charu gymaint, ac wedi’i lleoli ynddi. Ar adeg pan oedd nofelau wedi’u gosod yng Nghymru yn cael eu hystyried yn amheus gan gyhoeddwyr anghyfarwydd â’r wlad ac yn ansicr sut y byddai eu darllenwyr yn ymateb, roedd ei gwrthodiad i gyfaddawdu yn hyn o beth, ac mae’n parhau i fod, yn ysbrydoliaeth. Dyma reswm arall pam fod Raine mor bwysig – mae hi’n cynnig cipolwg unigryw ar bobl Cymru, Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif na ellir ond dod ar ei thraws yn awr yn ail law, ond sydd hefyd yn cynnig llais y gellir ei glywed o hyd, yn sylwebu ac yn feiddgar yn beirniadu agweddau ar yr eglwys. Wrth i fenywod geisio sicrhau cydraddoldeb o hyd yn y rhan hon o gymdeithas, mae menywod fel Raine yn ein hatgoffa pa mor bell yr ydym wedi dod a faint ymhellach y mae angen inni fynd.


Bu farw Allen Raine ar 21 Mehefin 1908 o ganser y fron. Fe'i claddwyd gyda'i gŵr yn St. Michael's, Penbryn, yr eglwys y priododd ynddi yn 1872. Cwblhawyd ei nofel olaf, Under the Thatch , gan ei nai Lyn Evans a'i chyhoeddi ar ôl ei marwolaeth yn 1910. Cedwir ei dyddiaduron ar hyn o bryd yn y Ganolfan. Archifdy Morgannwg yng Nghaerdydd.

Bydd Honno yn ailgyhoeddi Garthowen (1900) Raine, gyda chyflwyniad gan Juliet, yn 2027 os nad ynghynt.

Awdur: Mae Juliet Larsen yn gweithio ar ei thraethawd PhD, ‘Religion, Belief and Landscape in Welsh women’s writing in English, 1847-1910’ ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei phrosiect yn dangos, ar adeg pan oedd dylanwad merched yn yr eglwys a’r capel yn gyfyngedig, iddynt droi at lenyddiaeth i egluro eu credoau crefyddol, gan ddefnyddio gweithiau ffuglen i addysgu, i bregethu ac i fynegi eu llais. Trwy ganolbwyntio ar grefydd, systemau credoau eraill megis llên gwerin ac ofergoeliaeth, a’r dirwedd gysegredig, mae’n gobeithio tynnu sylw at y meysydd hyn nad oes digon o ymchwil iddynt ym maes ysgrifennu Saesneg yng Nghymru.

Ffotograff o Allen Raine gan ceridwen / hysbysiad arddangosfa Allen Raine / CC BY-SA 2.0