Here are Lovers

English research - Here are Lovers, edited by Diana WallaceWedi'i gosod yn Sir Faesyfed y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Here are Lovers gan Hilda Vaughan (a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1926) yn stori am Laetitia Wingfield, merch hardd, sy’n hoff o lyfrau, y Sgweier Seisnigedig Wingfield, a Gronwy Griffith, mab un o'i ffermwyr tenant Cymreig, sy'n dyheu am fod yn ysgolhaig clasurol.

Wedi diflasu ac yn rhwystredig gyda bywyd cyfyngedig merch ifanc Fictoraidd, mae Laetitia yn dod ar draws y rhamant y mae hi wedi bod yn hiraethu amdano pan aiff ar goll yn ystod reid ddirgel yn ystod y nos a chaiff ei hachub gan Gronwy. Un o’r ychydig nofelau sy’n canolbwyntio ar etholiad, mae Here are Lovers yn nofel hanesyddol hynod fedrus sy’n ail-greu traddodiad Syr Walter Scott i fynd i’r afael â materion fel y bleidlais i fenywod a oedd yn dal yn hynod ddadleuol yng nghanol y 1920au.

Yr Athro Diana Wallace, golygydd ‘Here are Lovers’, sy’n rhoi cefndir y nofel ddeallus a gafaelgar hon.

Am beth mae’r stori Here are Lovers?
Mae’n stori garu am ferch sgweier a mab un o’i ffermwyr tenant tlotaf wedi’i leoli yng nghanolbarth Cymru Fictoraidd. Mae Laetia Wingfield a Gronwy Griffith ill dau yn gaeth oherwydd amgylchiadau. Mae hi wedi diflasu ac yn rhwystredig gan ei bywyd fel merch ifanc Fictoraidd, tra ei fod ef eisiau bod yn ysgolhaig clasurol. Ni fydd yn diweddu’n dda.

Pam oeddech chi eisiau gweld y llyfr hwn mewn print?
Oherwydd yn ogystal â bod yn stori garu mae hefyd yn stori sy’n wrth-ramant – beirniadaeth o’r ffyrdd y gall delfrydau rhamantaidd ein hudo lawn cymaint ag amgylchiadau materol. Mae'n fath o gymysgedd o Wuthering Heights a Northanger Abbey. Ac mae’n atgof o gefn gwlad Cymru wedi’i ysgrifennu’n hyfryd.

Pa ddarnau wnaethoch chi eu mwynhau fwyaf?
A dweud y gwir, rhai o’r darnau gorau yw’r garwriaeth rhwng brawd Gronwy, Peter ac Elizabeth, merch ffermwr lleol, sy’n rhyw fath o stori gyfochrog. Mae yna olygfa hyfryd lle mae'n dringo i'w hystafell wely gyda'r nos i'w chwrtio. Mae’n hen draddodiad o’r enw ‘bwndelu’ neu ‘caru yn y gwely’ y ceisiodd y sgweierarchaeth Seisnig ei ddileu.

Mae'r nofel yn ymddangos yn fodern. Oedd Hilda Vaughan o flaen ei hamser?
Mewn sawl ffordd, roedd hi’n fenyw hynod ddiddorol – yn ferch i gyfreithiwr gwlad, fe’i magwyd yn Llanfair-ym-Muallt ond symudodd wedyn i Lundain i fod yn awdures (yn groes i ddymuniad ei theulu) a phriodi’r nofelydd hynod lwyddiannus Charles Morgan. Fel llawer o ferched modern roedd hi'n jyglo bod yn wraig a mam (roedd ganddyn nhw ddau o blant) a'i gwaith. Mae tipyn bach yn un o lythyrau cynnar Morgan ati pan maen nhw’n cynllunio bywyd gyda’i gilydd lle gall y ddau ohonyn nhw ysgrifennu ac mae’n dweud wrthi mai ei chyfrifoldeb hi wrth gwrs fydd gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw rywbeth i’w fwyta gyda’r nos.

Pam y dylid cynnwys Hilda Vaughan yng nghanon llenyddiaeth Gymraeg?
Dwi’n meddwl ei bod hi wedi cael ei gadael allan o ganonau Llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu Saesneg yng Nghymru tan yn ddiweddar iawn, yn rhannol oherwydd ei bod yn fenyw, yn rhannol oherwydd ei bod yn Gymraes, yn rhannol oherwydd ei safle dosbarth, ond hefyd yn rhannol oherwydd bod nifer o’i nofelau yn hanesyddol. Mewn gwirionedd, mae hi’n defnyddio’r ffuglen hanesyddol fel rhyw fath o glawr i ysgrifennu am faterion – yn enwedig y croestoriadau rhwng rhyw, dosbarth a chenedligrwydd Cymreig – efallai na fyddai hi wedi gallu ysgrifennu amdanynt yn fwy uniongyrchol bryd hynny.

Gallwch brynu 'Here are Lovers’ ar-lein gan Honno.