English Research Banner

Effaith Ymchwil


Gwell darpariaeth iaith ar gyfer mudwyr dan orfod yng Nghymru

Mae ymchwil gan Dr Mike Chick wedi helpu i wella mynediad i addysg iaith Saesneg i fudwyr dan orfod yn ne Cymru ac wedi llywio polisi'r llywodraeth ar SSIE (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill).

Ers 2014, mae toriadau i gyllidebau addysg iaith oedolion ynghyd â chynnydd yn nifer y bobl sy'n ceisio lloches wedi arwain at angen dybryd am fwy o ddarpariaeth SSIE. Mae sgiliau iaith yn hanfodol i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae siarad Saesneg yn allweddol i gael mynediad at gyfleoedd gwaith ac addysg yn ogystal â helpu gydag integreiddio cymdeithasol a diwylliannol. Ac eto, mae mudwyr dan orfod yn aml yn wynebu oedi hir cyn iddyn nhw allu cael mynediad at ddosbarthiadau Saesneg.



Gan weithio ar y cyd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru (CFfC) ac awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf, mae Dr Chick wedi bod yn ymchwilio i ddarpariaeth SSIE i fudwyr dan orfod yn ne Cymru a’r tu hwnt i ddarparu atebion i'r broblem hon. Yn ystod y gwaith hwn mae wedi cwrdd â channoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a’u dysgu.

Mae ei gydweithrediad arloesol â CFfC yn galluogi athrawon iaith dan hyfforddiant o PDC i gynnig dosbarthiadau i ffoaduriaid. Ers 2015, mae bron 50 o athrawon dan hyfforddiant wedi dysgu cannoedd o ffoaduriaid. Mae'r gwaith hwn yn cael ei drafod yn adroddiad yr Academi Brydeinig, “If you could do one thing…” Local actions to promote social integration (2017), ymhlith enghreifftiau o ymyriadau ymarferol llwyddiannus sy'n cael effaith gadarnhaol sylweddol. 

Ers 2016, mae Dr Chick hefyd wedi bod yn gweithio gyda swyddogion a mudiadau gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf i roi cyngor ar ddarparu dosbarthiadau Saesneg i ffoaduriaid o Syria sydd wedi cael eu hailsefydlu yn yr ardal yn rhan o Gynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed o Syria (CAPANS).

Gan weithio gyda CFfC, archwiliodd prosiect ymchwil Dr Chick yn 2019, wedi’i ariannu gan KESS, y rhwystrau a wynebir gan ffoaduriaid sy'n chwilio am addysg a chyflogaeth yn ne Cymru. Nododd y ffyrdd y gall addysgu iaith roi'r sgiliau i ffoaduriaid a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith ac integreiddio i'w cymunedau. Mae Veronika Merkova, myfyriwr ffotonewyddiaduraeth yn PDC, wedi cofnodi peth o waith Dr Chick.

Siaradwch â Mi: iaith a lles

Speak to Me - creative writing project for refugees in RCT by Barrie Llewellyn

Mae ymchwil gan yr Uwch Ddarlithydd Barrie Llewelyn yn archwilio'r cysylltiadau rhwng ysgrifennu a lles.  Ym mis Ionawr 2020 daeth ei phrosiect 'Siaradwch â Mi' (a ariannwyd gan Gynllun Ariannu Llenyddiaeth er Iechyd a Lles Llenyddiaeth Cymru) â grŵp o ffoaduriaid ynghyd i weithio mewn partneriaeth â siaradwyr Saesneg lleol mewn cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol. 

Roedd y prosiect hwn yn adeiladu ar waith Dr Mike Chick o PDC ac eraill sydd wedi ymroi i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o helpu ffoaduriaid i gaffael sgiliau iaith. Cydnabyddir yn gyffredinol fod sgiliau iaith yn hanfodol i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches a bod cymhwysedd iaith lleol yn allweddol i gael mynediad at waith, addysg a chyfleoedd. 

Dros gyfnod o bump wythnos, rhoddwyd sbardunau i gyfranogwyr ar ffurf gemau a gweithgareddau i archwilio themâu fel dathlu, bwyd a chyfeillgarwch. Yn sgil hyn, cafodd storïau eu cyfnewid rhwng cyfranogwyr. Wrth i'r wythnosau fynd rhagddynt, daeth pawb a oedd yn gysylltiedig yn fwy hyderus ac nid dim ond o ran defnyddio iaith.

Drwy gydweithio'n agos, chwalwyd rhwystrau ac roedd gwell dealltwriaeth o’u diwylliannau ei gilydd. Ffurfiwyd cyfeillgarwch gwirioneddol a pharhaol. Roedd yr ystafell yn llawn sŵn pobl yn rhannu storïau o'r galon, ac roedd llawer o chwerthin hefyd. Dangosodd y prosiect yn hyfryd sut mae integreiddio'n broses ddwyffordd y mae pawb yn elwa ohoni.

Gweithiodd y grŵp gyda myfyrwyr ffotonewyddiaduraeth a thechnoleg sain, a gydag artistiaid gweledol i gynhyrchu arddangosfa o eiriau, lluniau a synau'r cyfranogwyr yn sgwrsio i arddangos llwyddiannau'r prosiect. Mae cartref rhithwir ar gyfer yr arddangosfa wedi'i greu ar wefan Oriel y Bont.

Nod Barrie yw parhau â'r prosiect gyda'r un grŵp ac eraill. Mae llawer o bobl wedi clywed am Siaradwch â Mi ac wedi gofyn am gael cymryd rhan. Amcenir cyhoeddi llyfr lluniau i blant a allai fod yn ddefnyddiol i ffoaduriaid yn y dyfodol pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

Sant Cadog yn Ne Ddwyrain Cymru

St CadocMae straeon Sant Cadog, un o sylfaenwyr Cymru Gristnogol ac un a fu bron yn  nawddsant, wedi cyrraedd cynulleidfa ehangach drwy ymchwil yr Athro Kevin Mills.

Mae tua 18 o eglwysi, pedwar pentref a dwy heneb yn ne-ddwyrain Cymru wedi eu henwi ar ôl Sant Cadog/Catwg. Ac eto, prin yw’r bobl sy’n gwybod y dyn hwn, sydd braidd yn anhysbys ac ychydig yn ddadleuol, hyd yn oed yn ei filltir sgwâr.  Arweiniodd ymchwil yr Athro Mills ar Cadog at gyhoeddi pamffled barddoniaeth arobryn, Stations of the Boar (2016), at gyd-ysgrifennu drama, ac at gyhoeddi cyfres o gerddi yn ei gasgliad, Zeugma (2020).  

Wedi'i chyd-ysgrifennu gyda'r dramodydd a'r cyfarwyddwr arobryn Vic Mills, agorodd y ddrama Cadoc and the Drowned Boys, yn Theatr Fach y Coed Duon ym mis Gorffennaf 2019, cyn mynd ar daith i saith o'r eglwysi ledled de Cymru sydd wedi’u henwi ar ôl Sant Cadog. 

Yn ddarn o theatr arbrofol, cynlluniwyd y ddrama i fanteisio ar botensial theatraidd yr eglwysi lle cafodd ei pherfformio, gan ddefnyddio dim ond ychydig iawn o setiau  a phropiau. Mae'n ail-ddychmygu hanes hynafol dau ddyn ifanc a foddodd yn y môr rhwng y Barri ac Ynys Echni. Daw hyn yn ganolbwynt i brosiect gan dri myfyriwr drama modern, a chwaraeir yn y cynhyrchiad hwn gan dri actor proffesiynol – Matthew Curran, Jemima Nicholas a Gareth Price-Stephens. Wrth i'w rolau ymdoddi i rai'r cymeriadau hynafol, archwilir cwestiynau am ffydd, anoddefgarwch, moesoldeb a hunaniaeth.

Canmolodd adolygydd y Western Mail Cadoc a'r Drowned Boys fel 'drama newydd feiddgar' gyda pherthnasedd cyfoes: '[mae cymeriadau’r ddrama] yn datgelu stori dywyllach nag y gallen nhw fod wedi'i dychmygu – un o gamdriniaeth, casineb at fenywod ac obsesiwn. [...] Mae agweddau arnyn nhw eu hunain, eu bywydau a'u perthnasoedd yn cael eu dinoethi, ac maen nhw’n darganfod bod gan y cymeriadau hanesyddol y maen nhw’n eu portreadu fwy yn gyffredin â'u bywydau go iawn nag yr oedden nhw wedi ei ddisgwyl.'  

Yn sgil y cynhyrchiad hwn, ffurfiodd yr Athro Mills a Vic Mills gwmni theatr CIC newydd, Contemporancient Theatre, i annog cymunedau i archwilio eu straeon eu hunain o'r gorffennol a'r presennol. Mae'r cwmni bellach yn gweithio ar eu prosiect nesaf, yn seiliedig ar ymchwil yr Athro Mills ar Dr Richard Price, yr athronydd o Oes Y Goleuo o Langeinwyr, ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn ne Cymru. Lawrlwytho  St Cadoc: History and Legend gan yr Athro Kevin Mills.